Wales Climate Action Day / Diwrnod Hinsawdd Cymru

12096112_982098525197038_8534710621613495345_n

Wales Climate Action Day - Pedal for the Planet

The people of Wales care about climate change. Let’s make sure Wales’ voice is heard as we join in the worldwide movement on 28th and 29th November to rally for a better future.
Ahead of UN climate change negotiations in Paris (COP21 – the 21st Conference of Parties), we will stand up for people affected by rising global temperatures and we will demand that world leaders agree on an ambitious deal.
There are marches and demonstrations taking place across the world during this weekend, and we want to make sure Wales is part of the movement.
So join us as we rally for action on climate change – let’s Pedal for the Planet!

When? Where?

Saturday 28 November 2015
Meet in Callaghan Square for mass cycle down to the Senedd: 1.30pm
Rally on the Senedd steps: 2.00pm – 3.00pm
On Saturday, November 28th Stop Climate Chaos Cymru are hosting a mass bike ride and rally in the capital of Wales. We will meet at Callaghan Square in Cardiff at 1.30pm to cycle together down Bute Street to the Senedd, where there will be speakers, entertainment and feel good vibes as we come together to show our love for Wales and the planet! Sustrans Cymru will coordinate the mass bike ride.
So bring your bikes! Or if you’d prefer not to cycle you can walk down Bute Street to be part of the demonstration, or meet us on the Senedd steps in the Bay at 2.00pm to join us for the rest of the rally!

Why?

Wales has a duty to be globally responsible, and tacking climate change is the biggest global challenge. Wales needs to stand up with the world to demand that world leaders agrees on a #FairClimateDeal

Who?

The bike ride is organised and coordinated by Sustrans Cymru -http://www.sustrans.org.uk/ @SustransCymru
Stop Climate Chaos Cymru members organisations are: National Federation of Women’s Institutes Wales, National Union of Students, Unison, Christian Aid Wales, CAFOD, Oxfam Cymru, Tearfund, Coed Cadw – The Woodland Trust, Friends of the Earth Cymru, RSPB Cymru, Sustrans Cymru, WWF Cymru, Wildlife Trusts Wales, The Centre for Alternative Technology, Wales Centre for International Affairs, Size of Wales.

Facebook - Stop Climate Chaos Cymru

Twitter - @SCCCymru

———————————————————-

 

Diwrnod Hinsawdd Cymru – Beicio dros y Blaned

Mae pobl Cymru yn poeni am newid hinsawdd. Dewch i ni sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed wrth i ni ymuno â’r symudiad byd-eang ar 28 a 29 Tachwedd i alw am ddyfodol gwell.
Cyn trafodaethau newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis (COP21 – yr 21ain Gynhadledd y Partïon), byddwn yn codi llais ar ran pobl sy’n cael eu heffeithio gan dymheredd y byd yn codi a byddwn yn mynnu bod arweinwyr byd yn cytuno ar fargen uchelgeisiol.
Mae ymdeithiau a phrotestiadau yn digwydd ar draws y byd ar y penwythnos hwn, ac rydym ni am sicrhau bod Cymru yn rhan o’r symudiad.
Felly ymunwch â ni wrth i ni weithredu – dewch i feicio dros y blaned!

Pryd? Ble?

Dydd Sadwrn 28 Tachwedd 2015
Cyfarfod yn Sgwâr Callaghan er mwyn cydfeicio i lawr i’r Senedd: 1.30pm
Rali ar Risiau’r Senedd: 2.00pm – 3.00pm
Ar Ddydd Sadwrn, 28 Tachwedd bydd Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru yn cynnal reid feics fawr a rali ym mhrif ddinas Cymru. Byddwn yn ymgynull yn Sgwâr Callaghan yng Nghaerdydd am 1.30pm, er mwyn cydfeicio lawr Stryd Bute ac i’r Senedd, ble bydd siaradwyr, diddanwyr ac awyrgylch parti wrth i ni ymgynull i ddangos ein cariad at Gymru a’r blaned! Bydd Sustrans Cymru yn cydlynnu’r daith feics.
Felly dewch ar gefn eich beic! Neu os fyddai’n well gennych beidio beicio gallwch gerdded gyda ni lawr Stryd Bute i fod yn rhan o’r brotest, neu ein cyfarfod wrth risiau’r Senedd yn y Bae am 2.00pm i ymuno yn y rali!

Pam?

Mae gan Gymru ddyletswydd i fod yn gyfrifol yn fyd-eang, a taclo newid hinsawdd yw’r her fyd-eang fwyaf un. Mae rhaid i Gymru sefyll ysgwydd yn ysgwydd â gweddill y byd a mynnu bod arweinwyr byd yn cytuno ar fargen deg ar hinsawdd.
Pwy?

Mae’r daith feics yn cael ei threfnu gan Sustrans Cymru -http://www.sustrans.org.uk/ @SustransCymru

Aelodau Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru yw:
Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched yng Nghymru, Undeb y Myfyrwyr, Unison, Cymorth Cristnogol Cymru, CAFOD, Oxfam Cymru, Tearfund, Coed Cadw – The Woodland Trust, Cyfeillion y Ddaear Cymru, RSPB Cymru, Sustrans Cymru, WWF Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Cymru, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Maint Cymru.

Facebook - Stop Climate Chaos Cymru

Twitter - @SCCCymru

Share