Cyfarfod yn yr Eisteddfod
Dyma luniau gan Gymdeithas yr Iaith o’n cyfarfod ‘Byw yn Gynaliadwy - y bil cynaliadwyedd newydd’ a gynhaliwyd yn yr Eisteddfod yn Ninbych.
http://cymdeithas.org/lluniau/trafodaeth-am-y-bil-cynaladwyedd-eisteddfod-dinbych-2013
Diolch yn fawr i bawb gymherodd rhan yn y cyfarfod bywiog yma - ar y panel ac yn y gynulleidfa.
Roedd ein pamffled ‘Llunio ein Dyfodol’ hefyd ar gael ar nifer o stondinau ein [...]
Byw yn Gynaliadwy - Cyfarfod cyhoeddus yn yr Eisteddfod
Fe fydd cyfarfod cyhoeddus gan y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy yn cael ei gynnal yn yr Eisteddfod i drafod y bil newydd ar ddatblygu cynaliadwy (a ail-enwyd yn ‘Bil Cenhedlaethau’r Dyfodol’ gan Lywodraeth Cymru).
Yn dilyn cyhoeddu ein llyfryn newydd ‘Llunio ein Dyfodol’ fe fydd hyn yn gyfle i fudiadau ac unigolion sydd a diddordeb mewn llunio [...]
Cefnogaeth gan bobl amlwg i ymgyrch ‘cenedlaethau’r dyfodol’ yng Nghymru
Mae pobl flaenllaw, gan gynnwys yr arweinydd busnes Syr Stuart Rose a’r ymgyrchydd amgylcheddol Jonathon Porritt, wedi cefnogi ymgyrch i wneud Cymru’n arloeswr byd ym maes datblygu cynaliadwy.
Heddiw (16 Gorffennaf 2013) mae cynghrair o fwy nag 20 o sefydliadau yn cyhoeddi ei chynnig amgen ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy pwysig Llywodraeth Cymru.
Dywed y grwp y [...]
Cefnogi Bil Datblygu Cynaliadwy Cryf
Mae Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru yn aelod o Gynghrair o fudiadau trydydd sector sy’n galw ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil Datblygu Cynaliadwy cryf er mwyn llunio dyfodol cynaliadwy i Gymru, gan ddefnyddio ond cyfran deg o adnoddau’r blaned.
Rydym wedi ymateb i’r ddau ymgynghoriad cyhoeddus a fu hyd yn hyn, ac yn awyddus i gynnal [...]