Cabinet Secretary takes strong Welsh message to climate talks

Press Release

For immediate release: Friday 11 November 2016

SONY DSC

The Cabinet Secretary for the Environment and Rural Affairs Lesley Griffiths AM heads to the United National’s annual climate change conference in Marrakesh with a strong message from Wales – we want to see action on climate change.

Last week Assembly Members unanimously endorsed the Paris climate agreement, which legally binds all ratified governments to hold global warming to no more than 2C above pre-industrial levels. The agreement entered into force on Friday 4 November 2016.

Ahead of her departure organisations from Welsh Coalition Stop Climate Chaos Cymru met the Cabinet Secretary to press home the need for delivery on the Paris agreement.

According to the Cabinet Secretary we must seize this opportunity to change the agenda when it comes to climate change. Lesley Griffiths AM said:

“I look forward to representing Wales at COP22 and will make it clear the Welsh Government, Assembly Members and the Welsh public all want to see strong action on climate change,”.

“The conference offers an opportunity for governments to discuss how we can best put the Paris agreement into force and meet its aims. We must make the most of this chance to ensure that we protect Wales and the world for future generations.”

This autumn the Welsh public have been meeting their local Assembly Members in communities across Wales to discuss the things that are important to them, that might be lost to climate change and ask politicians to speak up on tackling climate change. A total of 18 lobbies have taken place across Wales, with the support of Welsh coalition, Stop Climate Chaos Cymru.

Haf Elgar, Chair of the coalition said:

“Following ‘Speak Up’ events across Wales we are delighted that the National Assembly showed cross-party support for the Paris agreement, and that the Cabinet Secretary is now taking this strong Welsh call for action on climate change to the conference in Marrakesh.

“What’s needed next is an action plan from the Welsh Government that clearly sets out how it will meet its target of cutting emissions by 40% by 2020 and building a low-carbon economy.

“As of last year we also have a ground-breaking Well-Being of Future Generations Act in place, and must ensure that it is put into practice.”

ENDS

For more information please contact: Casia Wiliam, Oxfam Cymru Media and Communications Officer: [email protected] / 02920 803 292 / 07887 571 687

Notes to editor

SCC Cymru is a coalition of 16 influential organisations who work on climate change in Wales. Its Local Climate Lobby ‘Speak Up’ takes place across Wales throughout October and November 2016. To find all events taking part during the month, visit

www.stopclimatechaoscymru.org/october-lobby/get-involved-with-speak-up

Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd a neges gryf o Gymru i’r trafodaethau hinsawdd

 

Datganiad i’r Wasg

I’w ryddhau yn syth: Dydd Gwener 11 Tachwedd 2016

SONY DSC

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths AC yn cychwyn am Marrakesh gyda neges gref o Gymru – rydym ni eisiau gweld gweithredu ar newid hinsawdd.

Yr wythnos ddiwethaf pleidleisiodd Aelodau’r Cynulliad yn unfrydol i gefnogi cytundeb hinsawdd Paris, sy’n rhwymo’n gyfreithiol pob llywodraeth sydd wedi ei arwyddo i gadw cynhesu byd eang i ddim mwy na 2C yn uwch na’r lefelau cyn-ddiwydiannol. Daeth y cytundeb i rym ddydd Gwener 4 Tachwedd 2016.

Cyn iddi adael aeth sefydliadau o’r Glymblaid Gymreig Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru i gwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet i bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod cytundeb Paris yn cael ei weithredu.

Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet mae’n rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i newid yr agenda pan mae’n dod at newid hinsawdd. Meddai Lesley Griffiths AC:

“Rwy’n edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn COP22 ac fe fyddai’n ei gwneud yn gwbl glir bod Llywodraeth Cymru, Aelodau’r Cynulliad a phobl Cymru oll am weld gweithredu cryf ar newid hinsawdd,”.

“Mae’r gynhadledd yn rhoi cyfle i lywodraethau drafod sut y gallwn roi cytundeb Paris ar waith a hynny yn y ffordd orau bosib, er mwyn cyflawni ei amcanion. Mae’n rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn er mwyn gwarchod Cymru a’r byd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Yr hydref hwn mae pobl ledled Cymru wedi bod yn cwrdd â’u Haelodau Cynulliad yn eu cymunedau er mwyn trafod yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, a allai gael eu colli oherwydd newid hinsawdd, ac i ofyn iddynt godi llais ar fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae cyfanswm o 18 lobi wedi digwydd ledled Cymru, gyda chefnogaeth Clymblaid Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru.

Meddai Haf Elgar, Cadeirydd y glymblaid:

“Yn dilyn digwyddiadau ‘Codi Llais’ ledled Cymru rydym yn falch iawn bod Cynulliad Cymru wedi dangos cefnogaeth drawsbleidiol i gytundeb Paris, a bod Ysgrifennydd y Cabinet nawr yn mynd a’r neges gref yma o Gymru, yn galw am weithredu ar newid hinsawdd i’r gynhadledd yn Marrakesh.

“Yr hyn sydd ei angen nesaf yw cynllun gweithredu gan Lywodraeth Cymru sy’n dangos yn glir sut maen nhw am gwrdd â’u targed o leihau allyriadau 40% erbyn 2020 ac adeiladu economi garbon-isel.

“Ers y llynedd hefyd mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol mewn grym, ac mae’n rhaid i ni sicrhau ei bod yn cael ei rhoi ar waith.”

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Casia Wiliam, Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau Oxfam Cymru [email protected] / 02920 803 292 / 07887 571 687

Nodiadau i’r golygydd

Clymblaid o 16 sefydliad dylanwadol sy’n gweithio ar newid hinsawdd yng Nghymru yw Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru. Mae Lobi ‘Codi Llais’ y glymblaid yn digwydd ledled Cymru gydol Hydref a Thachwedd 2016. I ddod o hyd i’r holl ddigwyddiadau sy’n rhan o’r Lobi ewch i

www.stopclimatechaoscymru.org/october-lobby/get-involved-with-speak-up.

Share